Fflur
Dafydd
Caerdydd
Cyrraedd
y ddinas lwm a llwyd
heb wbod yn iawn pwy 'di neb.
A un mwydyn bach o grac yn y wal
yn dweud "hei dere miwn i gael te."
Sneb yn y swyddfa'n codi pen
wrth i mi gerdded mewn trw'r drws.
Pwy dwi ond merch fach hy
sy filltir bant o fod yn dlws.
A trwy grac yn y pafin
mae na olau sy'n tywynnu o hyd.
Lawr trwy'r crac, dros fy mac pac
ac yn sydyn dwi 'di maddau y byd...
I Gaerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Deffro mewn gwely llwm a llwyd
heb wbod yn iawn pwy yw hwn
sy'n troi tuag ata i a'i lais fel y mwg
yn dweud myfi, myfi yw Deryn y Bwn.
Sneb ar y bws yn codi llaw
wrth yrru heibio i mi.
Dwi'n gysgod hir ar balmant du
dwi filltir bant o fod yn flin.
A trwy grac yn y pafin
mae na olau sy'n tywynnu o hyd.
Lawr trwy'r crac, dros fy mac pac
ac yn sydyn dwi 'di maddau y byd...
I Gaerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Y cwtsh dan sta'r lle dwi'n brwydro am a'r
y golau dan y coed lle dwi'n dod i oed,
y cwtsh dan sta'r lle dwi'n brwydro am a'r
y golau dan y coed lle dwi'n dod i oed.
Y cwtsh dan sta'r lle dwi'n brwydro am a'r
y golau dan y coed lle dwi'n dod i oed,
y cwtsh dan sta'r lle dwi'n brwydro am a'r
y golau dan y coed lle dwi'n dod i oed.
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd (Caerdydd, Caerdydd)
Caerdydd...
No hay comentarios:
Publicar un comentario